Thursday 1st June / Ruthin School ‘Celebration of Youth Volunteering’ 6pm
Friday 2nd June / #Friday Feeling – ‘Open Doors’ – Develop Skills & Meet New People – Come along and join in the #Friday Feeling at DVSC Volunteer Centre Offices, Naylor Leyland Centre, Ruthin LL15 1AF 1 - 3pm / Ysgol Clawdd Offa, Prestatyn ‘Celebration of Youth Volunteering’ 6pm
Monday 5th June / Celebration of the creative work being done in Learning Disability in North Wales: ’We Can’ Exhibition – Come and view the powerful photographic images of the ability and potential within everyone. Touching video of the ‘Immersive Spaces’ project, working creatively with young people with profound disabilities. DVSC Volunteer Centre Offices, Naylor Leyland Centre, Ruthin LL15 1AF. Drop in! 11am – 3.30pm. (refreshments provided)
Tuesday 6th June / Rhyl Talking Point Volunteer Event, Rhyl Library – Enjoy supporting people? Want to gain some new skills? Want to make a contribution in your community? Come and meet staff from DVSC, North Wales Women’s Centre, Age Connects, TAPE, British Red Cross, Action on Hearing Loss, NEWCIS, and many more! - 10am – 12pm (drop in)
Wednesday 7th June / DWP Volunteer Event, Rhyl Job Centre – Find out how you can volunteer in your local area and sign up! 10am – 2pm (drop in)
Thursday 8th June / ‘Sunny Rhyl Litter Pick’ #DenbighshireVolunteers – Come and join DVSC, Denbighshire Learning Partnership & Keep Wales Tidy for a fun filled few hours sprucing up the local area – Meet at Rhyl Pavilion Car Park at 11am (event runs till 1pm).
Friday 9th June / #Friday Feeling – ‘Open Doors’ – Develop Skills & Meet New People – Come along and join in the #Friday Feeling at DVSC Volunteer Centre Offices, Naylor Leyland Centre, Ruthin LL15 1AF 1 - 3pm
Monday 12th June / #DenbighshireVolunteers Big Celebration Event, DVSC Volunteer Centre Offices, Naylor Leyland Centre, Ruthin LL15 1AF – 1.30 - 3.30pm
For more information on any of the above events, please contact:
01824 702 441 or email:
www.denbighshirevolunteers.net
Get involved through our social media Shout Out! See overleaf……….
If you are not able to attend one of our events, you can still be involved. We will be running a social media campaign through Facebook and twitter, @DVSC_Wales to promote Volunteers Week and to do a Social media Shout out for all those #DenbighshireVolunteers who have made a difference in the last 12 months. So please take part in this campaign.
There are a number of ways in which you can contribute directly to this social media campaign.
· You can share information about our events and activities as widely as possible through social media, your contacts and your website
· You can send us information about your events and activities and we will share your information through our networks, social media and websites.
· You can share your own volunteering story on our new website, or you can share your story about how the work of volunteers benefits your group, organisation or society for the better - http://denbighshirevolunteers.net/shareyourstory
· You can also spread the word and encourage people who have volunteered that you know to share their stories on our website, http://denbighshirevolunteers.net/your-stories/.
· And finally, if there are volunteers who have made a real difference to your voluntary and community group or organisation over the last year you can nominate them for a Celebratory Shout out by emailing - providing name, contact details, and why (in no more than 250 words) their voluntary efforts deserve to be celebrated. If you have a photograph of them to share all the better or you can fill in the form on our website here - http://denbighshirevolunteers.net/share-your-story/
So please do join us in celebrating #DenbighshireVolunteers in whichever way you can and if you have an idea or a suggestion for how we can raise the profile of volunteers, and volunteering in Denbighshire during this period (and beyond) do let us know.
Digwyddiadau a GweithgareddauDydd Iau
1 Mehefin / Ysgol Rhuthun, ‘Dathlu Gwirfoddolwyr Ifanc’ 6pm
Dydd Gwener
2 Mehefin / #GwefrGwener – ‘Drysau Agored’ – Datblygu sgiliau a chyfarfod pobl newydd – dewch draw i ymuno yn #GwefrGwener yn Swyddfeydd Canolfan Wirfoddoli CGGSDd, Canolfan Naylor Leyland, Rhuthun LL15 1AF, 1 - 3pm / Ysgol Clawdd Offa, Prestatyn ‘Dathlu Gwirfoddolwyr Ifanc’ 6pm
Dydd Llun
5 Mehefin / Dathlu’r gwaith creadigol ym maes Anableddau Dysgu yng Ngogledd Cymru: Arddangosfa ‘Medrwn’ – dewch i weld y delweddau ffotograffig pwerus sy’n dangos gallu a photensial pawb. Fideo calonogol y prosiect ‘Gwagleoedd Trochi’, yn gweithio’n greadigol â phobl ifanc gydag anableddau dwys. Swyddfeydd Canolfan Wirfoddoli Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych, Canolfan Naylor Leyland, Rhuthun LL15 1AF. Galwch heibio! 11am – 3.30pm. (Cynigir paned)
Dydd Mawrth
6 Mehefin / Digwyddiad Gwirfoddolwyr Pwynt Siarad y Rhyl, Llyfrgell y Rhyl – Ydych chi’n mwynhau rhoi cymorth i bobl? Awydd ennill sgiliau newydd? Eisiau gwneud cyfraniad i’ch cymuned? Dewch i gyfarfod â staff o Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych, Canolfan Merched Gogledd Cymru, Age Connects, TAPE, Y Groes Goch, Action on Hearing Loss, NEWCIS, a llawer rhagor! - 10am – 12pm (galw heibio)
Dydd Mercher
7 Mehefin / Digwyddiad Gwirfoddolwyr yr Adran Gwaith a Phensiynau, Canolfan Byd Gwaith y Rhyl – Dewch i ddysgu sut y medrwch chi wirfoddoli yn eich ardal leol a chofrestru! 10am – 2pm (galw heibio)
Dydd Iau
8 Mehefin / ‘Codi Sbwriel yn Rhyl Heulog’ #GwirfoddolwyrSirDdinbych – Dewch i ymuno â Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych, Partneriaeth Dysgu Sir Ddinbych a Chadw Cymru’n Daclus ar gyfer ychydig o oriau llawn hwyl yn tacluso’r ardal leol – cyfarfod ym maes parcio Theatr Pafiliwn y Rhyl am 11am (bydd y digwyddiad yn gorffen am 1pm)
Dydd Gwener
9 Mehefin / #GwefrGwener – ‘Drysau Agored’ – Datblygu sgiliau a chyfarfod pobl newydd – dewch draw i ymuno yn #GwefrGwener yn Swyddfeydd Canolfan Wirfoddoli CGGSDd, Canolfan Naylor Leyland, Rhuthun LL15 1AF, 1 - 3pm
Dydd Llun
12 Mehefin / #GwirfoddolwyrSirDdinbych – Digwyddiad Dathlu Mawr, Swyddfeydd Canolfan Wirfoddoli Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych, Canolfan Naylor Leyland, Rhuthun LL15 1AF – 1.30 - 3.30pm
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’r digwyddiadau uchod, cysylltwch ar:
01824 702 441 neu e-bost:
www.gwirfoddolwyrsirddinbych.net
Cymrwch ran trwy ein ymgyrch cyfryngau cymdeithasol! Gweler trosodd……….
Os nad yw’n bosibl i chi ddod i un o’n digwyddiadau ni, mae’n bosibl i chi gymryd rhan mewn ffordd arall. Byddwn yn cynnal ymgyrch cyfryngau cymdeithasol trwy gyfrwng Gweplyfr a Thrydar, @DVSC_Wales, i hyrwyddo Wythnos Gwirfoddolwyr a rhoi cydnabyddiaeth ar y cyfryngau cymdeithasol i’r holl #GwirfoddolwyrSirDdinbych sydd wedi gwneud gwahaniaeth yn ystod y 12 mis diwethaf. Felly cymrwch ran yn yr ymgyrch hon, os gwelwch yn dda.
Mae nifer o ffyrdd i chi gyfrannu’n uniongyrchol i’r ymgyrch cyfryngau cymdeithasol yma.
· Cewch rannu gwybodaeth am ein digwyddiadau a’n gweithgareddau mor eang â phosibl trwy’r cyfryngau cymdeithasol, eich cysylltiadau chi a’ch gwefan
· Cewch anfon gwybodaeth atom ni am eich digwyddiadau a’ch gweithgareddau chi, a gwnawn rannu eich gwybodaeth trwy ein rhwydweithiau, ein cyfryngau cymdeithasol a’n gwefannau
· Cewch rannu eich stori wirfoddoli eich hun ar ein gwefan newydd, neu cewch rannu eich stori am sut mae gwaith gwirfoddolwyr o fudd i’ch grŵp, mudiad neu eich cymdeithas chi - http://gwirfoddolwyrsirddinbych.net/rhannwch-eich-stori-chi/
· Mae croeso i chi ledaenu’r neges ac annog pobl rydych chi’n eu hadnabod sydd wedi gwirfoddoli i rannu eu straeon ar ein gwefan http://gwirfoddolwyrsirddinbych.net/rhannwch-eich-stori-chi/
· Ac yn olaf, os oes gwirfoddolwyr sydd wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i’ch grŵp gwirfoddol neu gymunedol neu eich mudiad chi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cewch eu henwebu i’w henwi i ddathlu eu cyfraniad trwy anfon neges e-bost i gan nodi’r enw, manylion cyswllt a pham mae eu hymdrechion gwirfoddol yn haeddu cael eu dathlu (mewn dim mwy na 250 o eiriau). Os oes gennych chi lun ohonynt i’w rannu gorau oll, neu cewch lenwi’r ffurflen ar ein gwefan yma - http://gwirfoddolwyrsirddinbych.net/rhannwch-eich-stori-chi/
Felly gofynnwn i chi ymuno â ni wrth ddathlu #GwirfoddolwyrSirDdinbych ym mha bynnag ffordd y medrwch chi, ac os oes gennych chi syniad neu awgrym sut y medrwn ni godi proffil gwirfoddolwyr, a gwirfoddoli, yn Sir Ddinbych yn ystod y cyfnod hwn (a thu hwnt) gadewch i ni wybod, os gwelwch yn dda.