Make a week for wildlife last a lifetime…
Wales Biodiversity Partnership invites you to join thousands of people in a fantastic week of events to get you inspired about theamazing wildlife of Wales!
Events range from small and personal guided walks in nature reserves and towns to large fairs where you can learn about nature and the environment. Get involved and make a pledge to protect wildlife by carrying out simple actions such as making a pond, feeding the birds and carrying out wildlife-friendly gardening. Events are organised in partnership, bringing together the knowledge and enthusiasm of your local wildlife experts and coordinated centrally by the Wales Biodiversity Partnership.
Pledge4Nature and win a prize...this year to celebrate Wales Biodiversity Week you can make your pledge to help nature and one lucky pledge holder will receive a prize! To take part, simply fill in the pledge form and click ‘submit’. It's easy to help wildlife, so get involved!
For more details and to locate events in your area simply click on
END
For more information please contact: / 01656 726984
Gwnewch i ‘wythnos natur’ bara am byth...
Mae Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru yn eich gwahodd i ymuno â miloedd o bobl er mwyn cymryd rhan mewn wythnos sy’n llawn dop o ddigwyddiadau a all danio’ch brwdfrydedd ynglŷn â byd natur bendigedig Cymru!
Mae’r digwyddiadau’n amrywio o deithiau tywysedig personol a bach mewn gwarchodfeydd natur a threfi i ffeiriau mawr lle gallwch ddysgu am fyd natur a’r amgylchedd. Dewch i gymryd rhan ac i wneud addewid i warchod byd natur trwy wneud pethau bach, syml - fel adeiladu pwll, bwydo’r adar a garddio er budd bywyd gwyllt. Caiff y digwyddiadau eu trefnu mewn partneriaeth, gan ddod â gwybodaeth a brwdfrydedd eich arbenigwyr byd natur lleol ynghyd. Ond Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru fydd yn cydlynu popeth yn ganolog, er hwylustod i bawb.
Gwnewch addewid i natur, gan ennill gwobr yr un pryd... Eleni, i ddathlu Wythnos Bioamrywiaeth Cymru, rydym am roi gwobr i rywun lwcus sydd am wneud addewid i helpu natur! I gymryd rhan, llenwch y ffurflen addewidion a chliciwch ar ‘anfon’. Mae helpu bywyd gwyllt yn hawdd, felly cofiwch gymryd rhan!
I gael mwy o fanylion ac i ddod o hyd i ddigwyddiadau yn eich ardal, cliciwch ar
DIWEDD
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â’r canlynol: / 01656 726984
1